Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (96)v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 12 ac 14. Cafodd cwestiynau 7 ac 11 eu grwpio. Tynnwyd cwestiwn 13 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 14.26
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.37
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Darparu gwasanaethau addysg yng Nghymru yn y dyfodol
Dechreuodd yr eitem am 14.56
4. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Paratoadau ar gyfer y Gaeaf
Dechreuodd yr eitem am 15.35
5. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio – pwerau i gynnwys darpariaethau machlud ac adolygu mewn is-ddeddfwriaeth
Dechreuodd yr eitem am 16.09
NNDM5061 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â phŵer i Weinidogion Cymru gynnwys cymalau machlud ac adolygu mewn is-ddeddfwriaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6. Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2011-12
Dechreuodd yr eitem am 16.12
Cyflwynwyd
y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1
- Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gan Gomisiynydd Plant Cymru gyfrifoldeb dros faterion wedi eu datganoli a materion heb eu datganoli sy’n ymwneud â phlant yng Nghymru.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu trefniadau llywodraethu Comisiynydd Plant Cymru, ac i ystyried gwneud y Comisiynydd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn hytrach nag i’r Prif Weinidog yn unig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod datganiad i’r wasg Comisiynydd Plant Cymru sy’n gysylltiedig ag Adroddiad Blynyddol 2011-12:
a) yn cydnabod y pryderon a fynegwyd wrth Gomisiynydd Plant Cymru nad yw rhai pobl ifanc yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau ieuenctid o ansawdd da, ac nad yw gwasanaethau ieuenctid yn cael eu gwerthfawrogi ddigon; a
b) yn galw am ymrwymiad cenedlaethol i gydnabod gwerth gwaith ieuenctid.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5095 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2011-12.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gan Gomisiynydd Plant Cymru gyfrifoldeb dros faterion wedi eu datganoli a materion heb eu datganoli sy’n ymwneud â phlant yng Nghymru.
Yn nodi bod datganiad i’r wasg Comisiynydd Plant Cymru sy’n gysylltiedig ag Adroddiad Blynyddol 2011-12:
a) yn cydnabod y pryderon a fynegwyd wrth Gomisiynydd Plant Cymru nad yw rhai pobl ifanc yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau ieuenctid o ansawdd da, ac nad yw gwasanaethau ieuenctid yn cael eu gwerthfawrogi ddigon; a
b) yn galw am ymrwymiad cenedlaethol i gydnabod gwerth gwaith ieuenctid.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
1 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.11
Crynodeb o Bleidleisiau
7. Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.13
NDM5075 Lynne Neagle (Tor-faen): Y Storm Berffaith
Asesu effaith gronnol diwygio lles mewn cysylltiad â thai yng Nghymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:40
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 21 Tachwedd 2012